Ffeil-O-Ffaith:

English




Ffeil-O-Ffaith y Planedau
Mercher Gwener Daear Mawrth Iau Sadwrn Wranws Neifion

Neifion

Dyma'r blaned sydd bellaf oddi wrth yr Haul, yng nghysawd yr Haul. Mae 30 gwaith ymhellach i ffwrdd o'r Haul na'r Ddaear.

Neifion yw'r lleiaf o'r cewri rhew a'r pellaf i ffwrdd. O ganlyniad, ni chafodd ei darganfod tan 1846, sy'n golygu mai hi oedd y blaned gyntaf i'w rhagfynegi gan fathemateg cyn iddi gael ei gweld.

Er ei bod yn llai na'r blaned Wranws sydd nesaf ati, mae ei màs yn fwy.

Mae atmosffer Neifion wedi'i ffurfio o nwyon hydrogen, heliwm a methan. Mae'r rhan fwyaf o fàs y blaned wedi'i ffurfio o hylif dwys, poeth o ddŵr, methan ac amonia sy'n amgylchynu craidd creigiog.

Mae Neifion yn cymryd 16 awr i gwblhau cylchdro o'i hechelin a 165 blwyddyn Daear i gwblhau un daith o amgylch yr Haul.

Mae hinsawdd Neifion yn actif iawn, ac mae'r gwyntoedd yn cyrraedd 600 metr yr eiliad. Cofnodwyd un storm yn 1989 wnaeth bara am bum mlynedd!

Cafodd 14 lleuad eu hadnabod hyd yn hyn. Triton yw'r fwyaf ac mae'n anghyffredin am mai dyma'r unig leuad yng nghysawd yr Haul sy'n teithio mewn cyfeiriad gwahanol i gylchdro'r blaned.

Wranws o'r Telesgop Hubble

Teithiau

Un llong ofod yn unig sydd wedi ymweld â Neifion.

Hedfan heibio'r blaned wnaeth y chwiliedydd Voyager 2 yn 1989 wrth iddo lywio drwy gysawd allanol yr Haul.

Cymerodd Voyager 2 tua deng mlynedd i gyrraedd Neifion, er bod ei thaith wedi mynd â hi heibio i Iau, Sadwrn ac Wranws yn gyntaf.

Nid oes teithiau i Neifion wedi'u cadarnhau ar hyn o bryd. Ond nid oes ffenestr addas ar gyfer lansio tan 2031.

Cwestiynau

Defnyddiwch y wybodaeth uchod i ateb y cwestiynau hyn:

  1. A yw cyflymdra orbitol Neifion yn gynt neu'n arafach na chyflymdra orbitol y Ddaear?
  2. Pa ffactorau fyddech chi'n eu cymryd i ystyriaeth pe baech yn trefnu taith i Neifion?
  3. Sawl diwrnod Neifion sydd mewn blwyddyn Neifion?
  4. Pa nwy yn atmosffer Neifion sy'n gyfrifol am ymddangosiad glas y blaned? Awgrym: edrychwch ar brif gydrannau Sadwrn a pha liw mae'n ymddangos.

Atebion

Dyma ddolen fydd yn eich cysylltu â'r daflen atebion ar gyfer yr ymarfer hwn. Peidiwch â'i defnyddio tan ar ôl i chi roi cynnig ar yr holl weithgareddau


Yn ôl i Dudalen Gartref Ffiseg